top of page

Mae Bill Peachment yn gynllunydd, rhaglennydd a gweithredydd goleuo o’r radd flaenaf ac mae galw mawr am ei wasanaeth. Yn uchel ei barch yn y diwydiant, mae’n gallu cynnig cefnogaeth greadigol a thechnegol heb ei hail i gleientiaid a chynyrchiadau ledled y byd. Dechreuodd ymddiddori yn elfennau technegol ac artistig y diwydiant adloniant tra oedd yn yr ysgol a thrwy gydol ei yrfa mae wedi meithrin arbenigedd helaeth ym mhob sector o’r diwydiant, yn cynnwys ym maes darlledu, ffilmiau, teithio a digwyddiadau byw. Mae Bill wedi bod yn ddigon ffodus i gael gweithio gyda llawer o’r artistiaid a’r talentau creadigol mwyaf ym mhob cwr o’r byd, a daw â chyfoeth o brofiadau a brwdfrydedd i unrhyw gynhyrchiad, boed fawr neu fach. Mae Bill yn sgïwr brwd ac mae ganddo dystysgrifau i hedfan awyrennau a hofrenyddion preifat.

bottom of page